*Mae'r Gronfa hon wedi cau *
Mae effaith hir-hoedlog pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw ar y Celfyddydau o bwys mawr i Gyngor Celfyddydau Cymru ac rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol i rai o’n cronfeydd.
Newidadau i’r gronfa Creu.
Ar gyfer Creu, ein rhaglen a ariennir gan Y Loteri Genedlaethol, rydym yn codi’r nenfwd ar gyfer ceisiadau o £10,000 i £50,000, a hynny ar gyfer ceisiadau Datblygu Busnes ac Ailfodelu Busnes. Byddwn yn gwneud hyn ar gyfer y pedwar cylchdro nesaf o’n Grantiau Mawr.
Golyga hyn y gallwch nawr ymgeisio am hyd at £50,000 ar gyfer costau’n ymwneud â datblygu Busnes, ailfodelu busnes a gofynion hyfforddiant.
Dyma’r dyddiadau pwysig:
- 12 Gorffennaf 2023
- 23 Awst 2023
- 4 Hydref 2023
- 17 Ionawr 2024
Dylech ganolbwyntio ar gryfhau gallu a gwytnwch eich sefydliadau i fod yn fwy dynamig a chynaliadwy a hynny drwy ddatblygu cynllun busnes sy’n addas i’r amgylchiadau presennol.
Rydym yn awyddus i weld cynlluniau sy’n datblygu a gwella sgiliau busnes a rheoli er mwyn cefnogi’ch gwaith creadigol (gan gynnwys cynllunio busnes, codi arian a marchnata.)
I ymgeisio, defnyddiwch y ffurflen Creu arferol gan ddewis Datblygu Busnes yn Adran 4, Ffocws y Prosiect. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Creu.
Arian ychwanegol oherwydd Costau Byw - Mae'r Gronfa hon wedi cau
Rydym yn cydnabod y gallai costau sy'n ymwneud â phrosiectau presennol fod wedi cynyddu. Efallai fod cynnydd chwyddiant wedi effeithio ar gyllideb eich prosiect, cynnydd mewn prisiau mewn perthynas â biliau ynni neu broblemau eraill sy'n gysylltiedig â chostau byw.
Felly, i gefnogi artistiaid unigol, ymarferwyr celfyddydol a sefydliadau celfyddydol sydd eisoes â grant am brosiect sy'n bodoli, gallwch gyflwyno cais i ni am grant atodol.
I gefnogi artistiaid unigol ac ymarferwyr celf, a sefydliadau celfyddydol sydd eisoes wedi cael grant Loteri o dros £1,000, gallwch ofyn am hyd at 15% o'ch grant sy'n weddill. Gallwch wneud cais am arian hyd at 8 wythnos cyn i'ch prosiect ddod i ben. (Nid oes taliadau ychwanegol ar gyfer Grantiau Cyfalaf).