Yn dilyn y refferendwm a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2016, dechreuodd Llywodraeth y DU y broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE). Mae hyn i fod i ddigwydd ar 31 Hydref 2019. 

Bydd ymadawiad y DU o’r UE yn achosi goblygiadau sylweddol i gyrff cyhoeddus Cymru a’r sefydliadau a’r gwasanaethau sy’n cael eu cefnogi ganddynt, yn ogystal  â chwmnïau llawrydd a bach yn y sector diwylliannol. Bydd llawer o faterion yn cael eu rhannu’n ehangach ar draws y sector diwylliannol a threftadaeth. Ond mae rhai sy’n benodol i’r celfyddydau a’r diwydiannau creadigol.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn parhau i fod wedi’i ymrwymo’n gadarn  i waith rhyngwladol yn y celfyddydau. Byddwn yn parhau i gefnogi anghenion  y sector mewn unrhyw berthynas Ewropeaidd newydd, ac rydym yn gweithio  mewn partneriaeth gyda’n chwaer-sefydliadau yng ngweddill y DU i hyrwyddo  golwg cydlynol o’r materion sy’n effeithio’r sector.

Darllennwch y nodyn briffio yn llawn drwy glicio'r ddolen isod.

Fel y dywed y nodyn briffio:

"Mae Brexit yn berthnasol i chi.

.... os ydych chi’n…

• teithio, trafeilio neu weithio’n rhyngwladol
• cydweithio neu gyd-gynhyrchu gyda phartneriaid Ewropeaidd
• gwerthu nwyddau a gwasanaethau dramor
• mewnforio nwyddau a gwasanaethau i Gymru
• cyflogi neu roi gwaith ar gontract i ddinasyddion yr UE
• cael eich effeithio gan reoliadau rhyngwladol
• cynllunio i ddatblygu perthnasau rhyngwladol

… yna bydd materion ymarferol pwysig i chi eu hystyried."

Dolenni i ddigwyddiadau, ymatebion i ymgynghoriadau neu dystiolaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ar yr effaith posibl ar Brexit ar y celfyddydau yng Nghymru:
 

  1. Canlyniadau i’r arolwg i’r celfyddydau yng Nghymru a'r effaith bosibl o ganlyniad i adael yr UE gan Gyngor Celfyddydau Cymru / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Hydref 2016
  2. Adroddiad Brexit Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol, Hydref 2016
  3. The impact of Brexit on the creative industries, tourism and the digital single market, ymchwiliad gan Bwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ'r Cyffredin, Hydref 2016
  4. Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol, gan Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Mawrth 2018
  5. Cyflwyniad Eluned Hâf ym Mhwyllgor Diwylliant ac Addysg Senedd Ewrop
  6. Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit, Llywodraeth Cymru, Mehefin 2018
  7. Ymchwiliad Is-bwyllgor Materion Cartref yr UE gan Dŷ'r Arglwyddi, Brexit: movement of people in the cultural sector, Gorffennaf 2018
  8. Paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru pan fydd y DU yn gadael yr UE, gan Bwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Medi 2018
  9. Moving Beyond Brexit: Uniting the Cultural and Creative Sectors, Y Cyngor Prydeinig, Bozar, Sefydliad Diwylliannol Ewrop, Medi 2018
  10. Ymchwiliad byr i oblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i feysydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Hydref 2018