Cyfle cyfnewid dysgu gyda'r Almaen: ar gyfer sefydliadau ymarfer celfyddydau cymdeithasol sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chymunedau lleol
Mae Pont Ddiwylliannol yn cefnogi sefydliadau celfyddydol a diwylliannol ledled y DU a'r Almaen i ddatblygu partneriaethau sy'n archwilio ymarfer celfyddydau cymdeithasol.
Mae'r gronfa ar gyfer sefydliadau celfyddydol sydd â hanes cryf o weithio gyda'u cymunedau lleol i yrru newid cymdeithasol trwy ymarfer cyfranogol.
Drwy alluogi cysylltiadau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes, mae Pont Ddiwylliannol yn cefnogi rhwydwaith cynyddol o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i rannu arbenigedd a sgiliau, cyfnewid syniadau a chydweithio ar arferion a phrosiectau artistig sy'n archwilio themâu a materion y mae cymunedau yn yr Almaen a'r DU yn eu hwynebu. Mae sefydliadau o Gymru a gefnogwyd yn flaenorol yn cynnwys Valleys Kids, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Head4Arts, Dyffryn Dyfodol, Theatr Hijinx, Theatr Common Wealth a Das Clarks.
Trwy gyd-fuddsoddiad gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Prydeinig, Creative Scotland, Fonds Soziokultur, Goethe-Institut Llundain, hyd yn hyn mae Pont Ddiwylliannol wedi cefnogi 49 o bartneriaethau trwy 62 o wobrau, ar draws pedair rownd o gyllid ers ei blwyddyn beilot yn 2021.
Mae ceisiadau ar gyfer rhaglen 2026 - 2027 ar agor o 1 Hydref - 12 Tachwedd 2025. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y canllawiau diweddaraf ac wedi gwirio cymhwysedd eich sefydliad i wneud cais cyn ystyried cais.
Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys canllawiau llawn a ffilm fer 4 munud am y gronfa, ewch i wefan Pont Ddiwylliannol: Darganfod mwy