Fishamble: The New Play Company, Theatr Gu Leòr, a Theatr Bara Caws yn cyflwyno

TAIGH/TŶ/TEACH

Yn Theatr Bara Caws rydym wrth ein bodd bod yn cael bod yn rhan o bartneriaeth drawsffiniol arloesol, ynghyd â Theatre Gu Leòr (Yr Alban) a Fishamble (Iwerddon), i gyflwyno profiad theatrig unigryw tairieithog – TAIGH/TŶ/TEACH - i’n cynulleidfaoedd.

Cyd-destun y cynhyrchiad yw ‘tŷ’ yn y cymunedau Cymraeg/Gaeleg/Gwyddeleg sy’n cael eu heffeithio gan ail gartrefi, tai gwag, Air B&Bs, rhenti uchel, a diffyg tai fforddiadwy i’r bobl leol. Tair stori sy’n amlygu’r sialensau sy’n berthnasol i’r tair gwlad, a’r heriau sy’n effeithio ar y bobl sy’n byw yn y cymunedau hynny.

Ysgrifennwyd TŶ/TEACH/TAIGH gan Mared Llywelyn Williams, Mairi Morrison, ac Eva O’ Connor, a byddwn yn perfformio mewn safleoedd-penodol yn y tair gwlad.

Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn yw’r lleoliad yng Nghymru, lleoliad a fydd yn sicrhau profiad unigryw i’r gynulleidfa gael ei throchi mewn darn o waith mewn safle cwbl arbennig. Cyflwyniad promenâd yw hwn gyda’r gynulleidfa’n cael ei thywys o un ‘lleoliad’ i’r llall, gan brofi’r dramâu mewn un iaith ar ôl y llall, a cherddoriaeth fyw yn gweu drwy’r cyfan.

Bydd crynodebau Cymraeg ac is-deitlau Saesneg ar gael i sicrhau hygyrchedd.

Byddwn yn trefnu bod bws yn cludo'r gynulleidfa o'r maes parcio top i lawr i Nant Gwrtheyrn er mwyn hwyluso'r trefniadau cyn ac ar ôl pob sioe.

Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael felly’r cyntaf i’r felin…

 

Tocynnau

Tocynnau ar gael drwy safle we We Got Tickets:-

https://www.wegottickets.com/TheatrBaraCaws

 

Pnawn Mercher, Chwefror 21ain am 1yp

Nos Fercher, Chwefror 21ain am 6:30yh

 

Pnawn Iau, Chwefror 22ain am 1yp

Nos Iau, Chwefror 22ain am 6:30yh

 

Pnawn Gwener, Chwefror 23ain am 1yp

Nos Wener, Chwefror 23ain am 6:30yh

 

Pnawn Sadwrn Chwefror 24ain am 1yp

Nos Sadwrn, Chwefror 24ain am 6:30yh

 

Cast

Martha Dunlea - Gráinne

Eoin O'Dubhghaill - Ruairí

Honi Cooke - Lara

Elspeth Turner - Seona

Màiri Morrison - Annie 

Sam Smith - Calum ​

Mirain Fflur - Luned

Richard Elfyn - Richard

Siôn Emyr - Huw

 

Tîm Creadigol

Awduron - Eva O'Connor, Màiri Morrison, a Mared Llywelyn Williams

Cyfarwyddwr - Muireann Kelly

Dramaturg - Pamela McQueen

Set a'r dylunydd gwisgoedd – Becky Minto

Goleuo a Dylunydd AV - Ceri James

Cyfarwyddwr Cerdd - Hilary Brooks

Cynllunydd Sain - Berwyn Morris-Jones

Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Betsan Llwyd

Cynllunydd Set a Gwisgoedd - Fraser Lappin

 

Tîm Cynhyrchu

Rheolwr Cwmni - Rhona NicDhùghaill

Rheolwr Cynhyrchu - Eoin Kilkenny

Rheolwr Cynhyrchu (Yr Alban) - Mike Adkins

Rheolwyr Llwyfan - Kat Siebert, Leanna Cuttle, Llŷr Edwards, Jess Baldwin, a Cathrin Thomas

Cynhyrchwr Lleoliad - Rachel Kate MacLeod

Isdeitlau - Craig McNeill

Cynhyrchwyr – Emyr Morris-Jones, Mari Emlyn, Laura MacNaughton, Seona McClintock, Stephen Owen Williams, ac Eva Scanlan

Marchnata - Rachel Foran

Cysylltiadau Cyhoeddus - O'Doherty Communications

 

Perfformiadau

30ain Ionawr - 1af Chwefror

Grinneabhat, Lewis, Yr Alban

9fed – 14eg Chwefror

Ionad Na Dromoda, Kerry, Iwerddon

21ain – 24ain Chwefror

Nant Gwrtheyrn, Cymru



Lleoliad yng Nghymru - Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6NL.

 

Datblygwyd gyntaf gyda chefnogaeth Theatr Genedlaethol Cymru.



Mae’r cynhyrchiad yma wedi ei gefnogi gan Arts Council, Culture Ireland, Siamsa Tíre, Foras na Gaeilge, British Irish Chamber of Commerce, British Council Ireland, Scottish Government in Ireland, Llywodraeth Cymru yn yr Iwerddon, Ealaín na Gaeltachta, Creative Scotland, Bòrd na Gàidhlig, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Cronfa Ffyniant Bro Cyngor Gwynedd.