Cefnogodd CRhC Catrin Webster drwy'r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol i'w galluogi hi fynd ar breswyliad ryngwladol fis o hyd ym Muenos Aires yn 2015.
'Cefais gynnig preswylfa ryngwladol a ariannwyd yn rhannol gan URRA i dreulio mis yn gweithio mewn stiwdio ym Muenos Aires, gyda grŵp o 15 artist o bob cwr o'r byd. Roeddwn yn awyddus i fanteisio ar y cyfleoedd i greu corff o waith a manteisio ar gyfleoedd yr arddangosfa a magu cysylltiadau â'r ymgyfranogwyr eraill.
Yn y stiwdio, gallwn weithio o ddarluniau digidol dros ffotos i wneud paentiadau perfformiadol mawrion. Roedd cael fy neunyddiau arferol yn anodd felly penderfynais weithio ar gardfwrdd a oedd ar gael yn y siopau lleol. Canlyniad hyn oedd cyfeiriad newydd i'm paentio a wellwyd hefyd drwy ddatblygu cydweithio parhaus â Roy Efrat, artist o Israel, a gyfunai berfformiad, fideo a phaentio. Cyfunwyd ei ddiddordebau â'm rhai fi gan ddod â safbwynt a sgiliau gwahanol i'm hymarfer.
Hefyd cefais gardfwrdd i arbrofi gydag ef yn arwyneb paentio yn fy stiwdio yn Abertawe gan ddefnyddio'r ddinas yn ysbrydoliaeth. Dechreuais hefyd fynd am dro ynghanol Abertawe gan gymhwyso'r broses ffotograffyddol a digidol at hynny. Fy nod yw datblygu corff newydd o waith am Abertawe gan dynnu ar waith Buenos Aires.
Roedd Buenos Aires yn gyfle i mi ddatblygu nifer o ymarferion gweithio newydd a arweiniai at orffen sawl celfwaith. Gwahoddwyd Roy Efrat a mi i fynd yn ôl gyda'n gilydd i Fuenos Aires gan URRA y flwyddyn nesaf a gobeithio y gallem ddatblygu prosiect rhyngwladol mawr gyda'i gilydd.'