Sean Edwards yw'r artist a ddewiswyd eleni - cofiwch gysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol i weld y delweddau ac i ddarllen y newyddion diweddaraf o Fenis.

Instagram: @walesinvenice Twitter: @WalesInVenice Facebook: Cymru yn Fenis Wales in Venice

Sut i gyrraedd Santa Maria Ausiliatrice, Fondamenta San Gioachin, Castello

Lleoliad arddangosfa Cymru yn Fenis 2019 yw Santa Maria Ausiliatrice, Fondamenta San Gioachin, Castello. Hen gwfant sydd nawr yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gymunedol yw’r Santa Maria Ausiliatrice. Mae Cymru yn defnyddio’r hen gapel a nifer o stafelloedd eraill yn yr adeilad.

Oriau

11 Mai – 24 Tachwedd 2019
10:00 – 18:00
Ar gau ar ddydd Llun
Mynediad am ddim

Ble?

Wedi ei leoli hanner ffordd rhwng prif safleoedd y Biennale yn y Giardini a’r Arsenale mae’r Santa Maria Ausiliatrice yn hygyrch ac yn hawdd iawn i’w ganfod ar y Fondamenta San Gioachin sydd ar ben uchaf stryd lydan y Via Garibaldi.

Hygyrchedd corfforol

Mae'r mannau arddangos ar lawr gwaelod yr adeilad, ac mae rampiau wedi'u darparu. Sylwer nad oes cyfleusterau cyhoeddus ar y safle. Mae'r lleoliad yn agos at bont fach gyda grisiau, does dim ramp yno ar hyn o bryd. Am fwy o fanylion am fynediad ar draws y ddinas, cyfeiriwch at Fap Hygyrch Fenis sydd ar wefan cyngor y ddinas.