Mae Lyon yn ddinas yn nwyrain canolbarth Ffrainc gyda Hen Dref ar restr UNESCO, yn llawn strydoedd swynol a thramwyfeydd hynafol a elwir yn ‘traboules’. Mae’n enwog fel prifddinas fwyd Ffrainc ac mae’n cynnal gwyliau a digwyddiadau diwylliannol amrywiol, gan ddathlu ei hamrywiaeth artistig. Heddiw, mae’n gymysgedd gwych o’i gorffennol hanesyddol a’i harloesi modern.
Rhaglen ddiwylliannol gofleidiol Lyon (Cymru v Awstralia)
Ar y bore pryd y bydd Cymru’n herio Awstralia, bydd artistiaid yn meddiannu rhannau o’r pentref rygbi yn Lyon. Bydd hyn yn cynnwys perfformiadau gan gôr ieuenctid Hafodwennog o Sir Gaerfyrddin, a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023, ynghyd â pherfformiad o Qwerin, Osian Meilir.
Bydd Osian Meilyr hefyd yn rhan o ddirprwyaeth fach o Gymru i ddigwyddiad dawns Lyone Biennale 2023.
Dyddiadau:
22 Medi - Qwerin yn Club Bingo, La Bienale de la Danse Lyon
24 Medi - Côr Hafodwenog yn y Pentref Rygbi, Lyon
24 Medi - Qwerin yn y Pentref Rygbi, Lyon
25 Medi – Perfformiad Jessica Robinson yn nigwyddiad Llywodraeth Cymru yn Lyon
Gallwch ddarganfod mwy am Raglen Ddiwylliant Cymru yn Ffrainc 2023 yma: