Mae Nantes yn ddinas yn Loire-Atlantique ac yn gyn-brifddinas Llydaw. Mae wedi gefeillio â Chaerdydd ers 24 Chwefror 1964, ond mae eu cysylltiad yn mynd yn ôl ymhellach fyth, gyda masnach mewn glo a phren wedi’i chofnodi mor gynnar â 1729. 

Nantes yw canolfan y cwmni creadigol Les Machines De L’île, ble gallch ddod o hyd i Le Grand Éléphant (Yr Eliffant Mawr) a grëwyd gan François Delarozière fel symbol o greadigrwydd artistig a pheirianneg y ddinas.  

 

Clwb Ifor Bach yn StereoLux yn Nantes 

Ar y 7fed o Hydref bydd Clwb Ifor Bach yn cyflwyno Adwaith, Luke RV, Local a Sage Todz yn SttereoLux.  

 

Dyddiadau:

6 Hydref – Digwyddiad celfyddydau gweledol a gynhelir gan Nantes Metropole; Perfformiad Adwaith yn nigwyddiad Llywodraeth Cymru yn Nantes; Côr y Gleision yn perfformio yn Nantes  

7 Hydref - Clwb Ifor Bach, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn cyflwyno Adwaith, Luke RV, Local, a Sage Todz yn StereoLux yn Nantes; perfformiadau gan artistiaid i’w cyhoeddi ym mhentref rygbi Nantes 

 

Gallwch ddarganfod mwy am Raglen Ddiwylliant Cymru yn Ffrainc 2023 yma: