​***Faites défiler vers le bas pour le français​​***

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sef asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, wedi cyhoeddi rhestr o artistiaid a fydd yn rhan o’r rhaglen Diwylliant Cymru Ffrainc. Mae’r rhaglen yn dathlu diwylliant Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd ar drothwy’r gystadleuaeth yn Ffrainc.

Bydd artistiaid a chorau yn perfformio ar llwyfannau swyddogol yn y Pentrefi Rygbi ym Mharis, Nantes a Lyon, a bydd dau set o gynrychiolwyr yn mynychu digwyddiadau diwylliannol rhyngwladol ledled Ffrainc, a fydd yn hyrwyddo diwylliant Cymru yn Ffrainc, ac yn meithrin perthnasoedd diwylliannol.

Caiff y lansiad ei nodi gan ddatganiad ar y cyfryngau cymdeithasol o Hen Wlad Fy Nhadau yn cael ei chanu gan y soprano Jessica Robinson, a fu’n diddanu cynulleidfaoedd ledled y byd yn rownd derfynol BBC Canwr y Byd Caerdydd yn 2023.  

Bydd Pentref Rygbi Place de la Concorde ym Mharis yn croesawu Adwaith, y grŵp cyfoes Cymraeg, a’r artist hip-hop a grime, Mace the Great. Hefyd, bydd y dawnsiwr Osian Meilir yn cyflwyno cynulleidfaoedd i ‘Qwerin’ – perfformiad dawns gyfoes sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau’r ddawns werin draddodiadol Gymreig, ac wedi’i hysbrydoli gan ddiwylliant y clybiau Cwiar.  Bydd Osian yn siaradwr gwadd yn “Fresh”, sef cyfarfod proffesiynol a digwyddiad arddangos ym Mharis, ynghyd â detholiad o artistiaid a chwmnïau syrcas o Gymru a fydd yn chwilio am gyfleoedd newydd i gydweithio â chriwiau rhyngwladol.

Bydd Qwerin hefyd yn perfformio yn y Biennale de la Dance, ac yn y Pentref Rygbi yn Lyon, lle bydd côr Hafodwenog, a gyrhaeddodd rownd derfynol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Gaerfyrddin, hefyd yn perfformio i'r cyhoedd. Bydd y soprano Jessica Robison hefyd yn perfformio yn Lyon ar gyfer digwyddiad arbennig i westeion yn y gêm rhwng Awstralia a Chymru.    

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi nodau ehangach Llywodraeth Cymru o ran diplomyddiaeth ddiwylliannol a chwaraeon, yn ogystal â chreu cysylltiadau masnach â’r holl wledydd sy’n cymryd rhan yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys digwyddiadau busnes a rhwydweithio dan arweiniad Llywodraeth Cymru a Llysgenhadaeth y Deyrnas Unedig yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd, ac ar drothwy’r Gemau Olympaidd ym Mharis yn 2024.

 

Dywedodd Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae digwyddiadau chwaraeon mawr fel Cwpan Rygbi'r Byd a'r Gemau Olympaidd yn cynnig llwyfannau cyffrous i artistiaid o Gymru gyflwyno eu gwaith i gynulleidfaoedd newydd a meithrin perthnasoedd newydd gyda chymheiriaid yn Ffrainc – ac, wrth gwrs, i godi proffil ac ysbryd y Cymry yn Ffrainc. Mae artistiaid yn llysgenhadon gwych i Gymru, a gyda’n gilydd byddwn yn hyrwyddo ein gwerthoedd cyffredin o gydraddoldeb, amrywiaeth, iaith a chynhwysiant gyda’n partneriaid yn Ffrainc.”

 

Dywedodd Osian Meilir, dawnsiwr cyfoes a chyfarwyddwr creadigol Qwerin:

“Rydw i’n edrych ymlaen at fynd â Qwerin i Baris a Lyon er mwyn cael perfformio yn y digwyddiadau mawreddog ac i fod yn rhan o raglen diwylliant Cymru Ffrainc ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd. Mae Qwerin yn rhoi profiad cyfoes i gynulleidfaoedd o hen draddodiadau, ac yn archwilio hunaniaeth mewn ffordd gynhwysol a diddorol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut y bydd cynulleidfaoedd ledled Ffrainc yn ymateb i’n gwaith.”

 

Dywedodd Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

“Mae Rhaglen Diwylliant Cymru Ffrainc yn gyfle i feithrin cysylltiadau hirdymor rhwng y celfyddydau a chwaraeon yng Nghymru ac yn Ffrainc. Bydd artistiaid o Gymru yn gweithio mewn orielau, stiwdios, ac ar strydoedd a llwyfannau ledled Ffrainc. Bydd Osian Meilir yn cyflwyno dawns gyfoes Qwerin i hyrwyddwyr rhyngwladol, yn ogystal â’i pherfformio i’r cyhoedd ar strydoedd Paris a Lyon. Bydd Adwaith a Mace the Great yn serennu ar llwyfannau’r Pentrefi Rygbi, a bydd prosiect brecddawnsio newydd dan arweiniad Juke Box Collective yn cael ei ddatblygu ym Marseilles, wrth i frecddawnsio ddod yn gamp Olympaidd.” 

 

---

Mae rhaglen Diwylliant Cymru Ffrainc yn cael ei harwain gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sef asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, ac yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Cyngor Prydeinig.

Mae Cronfa Cymru yn Ffrainc, dan arweiniad y Cyngor Prydeinig, ac mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cefnogi nifer o gydweithrediadau hirdymor hyd at 2024. 

 

Dyddiadau allweddol ar gyfer rhaglen Diwylliant Cymru Ffrainc:

19-21 Medi - Digwyddiad Celf Stryd a fydd yn cael ei gynnal mewn gwahanol leoliadau ledled Paris, gydag Osian Meilir fel siaradwr gwadd ar 21 Medi. Bydd dirprwyaeth a gwmnïau o Gymru yn mynychu, dan arweiniad Articulture.

21 Medi - Qwerin yn cael ei berfformio ym Mhentref Rygbi Paris, place de la Concorde Paris

22 Medi - Mace the Great yn perfformio ym Mhentref Rygbi Paris, place de la Concorde Paris

22 Medi - Qwerin yn Club Bingo, La Bienale de la Danse Lyon

24 Medi - Côr Hafodwenog yn y Pentref Rygbi, Lyon

24 Medi - Qwerin yn y Pentref Rygbi, Lyon

25 Medi – Perfformiad Jessica Robinson yn nigwyddiad Llywodraeth Cymru yn Lyon

2-7 Hydref: Dirprwyaeth Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru o orielau a churaduron i Lydaw

5 Hydref – Adwaith yn perfformio ym Mhentref Rygbi Paris, Place de la Concorde Paris

6 Hydref – Digwyddiad celfyddydau gweledol a gynhelir gan Nantes Metropole; Perfformiad Adwaith yn nigwyddiad Llywodraeth Cymru yn Nantes; Côr y Gleision yn perfformio yn Nantes

7 Hydref - Clwb Ifor Bach, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn cyflwyno Adwaith, Luke RV, Local, a Sage Todz yn StereoLux yn Nantes; perfformiadau gan artistiaid i’w cyhoeddi ym mhentref rygbi Nantes

14 Hydref - Jukebox Collective ym Marseilles.  

 

---

L’association « Arts Council of Wales » dévoile les artistes qui se produiront en France dans le cadre de la Coupe du monde de rugby de 2023 

La liste des artistes qui participeront au programme Cymru France Culture pour la Coupe du monde de rugby a été publiée par « Wales Arts International », l’antenne internationale de « Arts Council of Wales », à quelques jours du coup d’envoi du tournoi organisé en France. 

De nombreux artistes et différentes chorales se produiront sur les scènes officielles des Villages Rugby installés à Paris, Nantes et Lyon, et deux délégations participeront à des événements culturels internationaux organisés dans le but de promouvoir la culture du pays de Galles en France et d’entretenir les relations culturelles.  

Pour marquer ce lancement, une version de l’hymne national gallois (« Hen Wlad Fy Nhadau ») chantée par Jessica Robinson, lauréate du concours « 2023 Voice of Wales », sera diffusée sur les réseaux sociaux. La soprano a tout récemment séduit le public du monde entier en étant la deuxième artiste galloise à rejoindre la finale du concours « BBC Cardiff Singer of the World » en 2023.

Adwaith, groupe de rock indie, proposera ses chansons de langue galloise au public du Village Rugby de la place de la Concorde à Paris, dans lequel se produira également Mace the Great, artiste de grime et de hip-hop. Les spectateurs auront également l’occasion de découvrir « Qwerin », un spectacle de danse contemporaine mis en scène par Osian Meilir, qui ose sortir du carcan de la danse folklorique galloise traditionnelle en s’inspirant de la culture des discothèques LGBTQ+. Accompagné d’une délégation d’artistes et de compagnies de cirque du pays de Galles, Osian sera l’un des principaux orateurs de « Fresh », une réunion professionnelle organisée à Paris et véritable vitrine pour les artistes du spectacle à la recherche de nouvelles collaborations avec leurs pairs internationaux. 

Qwerin sera également proposée au public lyonnais, avec des représentations à la Biennale de la Danse et au Village Rugby, où se produira aussi la chorale Hafodwenog originaire du comté du Carmarthenshire, finalistes du festival « Urdd National Eisteddfod » (Eisteddfod de la jeunesse). La soprano Jessica Robinson ravira également un public international lors d’un événement exclusif organisé à l’occasion du match qui opposera l’Australie au pays de Galles.      

L’association « Arts Council of Wales » soutient les objectifs plus larges du gouvernement gallois en matière de diplomatie culturelle et sportive, mais aussi de relations commerciales avec toutes les nations représentées à la Coupe du monde. Dans le cadre de ce programme, des événements commerciaux et de réseautage seront également organisés par le gouvernement gallois et l’ambassade du Royaume-Uni en France pendant la Coupe du monde et dans les mois menant aux Jeux olympiques de Paris en 2024.  

 

Maggie Russell, la directrice de « Arts Council of Wales », a déclaré : 

« Des événements sportifs d’une telle envergure, comme la Coupe du monde de rugby et les Jeux olympiques, offrent aux artistes gallois d’intéressantes tribunes pour présenter leur travail à de nouveaux publics et pour nouer de nouvelles relations avec leurs homologues français… Bien sûr, ils permettent aussi d’augmenter la visibilité du pays de Galles et d’encourager ses supporteurs en France. Les artistes sont de formidables ambassadeurs pour notre pays et, ensemble, nous allons promouvoir les valeurs d’égalité, de diversité, de langue et d’inclusion que nous partageons avec nos partenaires français. » 

 

Osian Meilir, danseur contemporain et directeur artistique de Qwerin, a déclaré :  

« J’ai hâte de présenter Qwerin au public parisien et lyonnais dans le cadre de ces événements prestigieux, mais aussi de participer au programme Cymru France Culture pour la Coupe du monde de rugby. Qwerin offre au public une expérience contemporaine des anciennes traditions tout en explorant l’identité d’une manière inclusive et attrayante. Nous sommes impatients de voir la réaction du public. » 

 

Selon Eluned Hâf, directrice de « Wales Arts International » :  

« Le programme Cymru France Culture est l’occasion d’entretenir les relations durables entre les arts et les sports au pays de Galles et en France. Des artistes gallois présenteront leur travail dans des galeries et des studios, dans la rue et sur des scènes aux quatre coins de la France. Qwerin, le spectacle de danse contemporaine d’Osian Meilir, sera présenté à des tourneurs internationaux et sera joué devant le public dans les rues de Paris et de Lyon. Adwaith et Mace the Great se produiront sur la scène principale dans les Villages Rugby et un projet de breakdance mené par Jukebox Collective sera développé à Marseille, puisque le breakdance est maintenant un sport olympique. »   

 

---

Le programme Cymru France Culture est dirigé par « Wales Arts International », l’antenne internationale de « Arts Council of Wales ». Il est financé par le gouvernement gallois et le British Council.  

Le Fonds « Wales in France Fund » est dirigé par le British Council en partenariat avec « Arts Council of Wales ». Le gouvernement gallois soutient un certain nombre de collaborations à long terme qui devraient durer jusqu’en 2024.   

Dates importantes dans le cadre du programme Cymru France pour la Coupe du monde de rugby :  

Du 19 au 21 septembre – Fresh Événement de mise en valeur des arts de la rue organisé dans divers lieux à Paris. Intervention d’Osian Meilir le 20 septembre. Une délégation d’entreprises galloises conduite par Articulture sera présente.  

21 septembre – Représentation de Qwerin au Village Rugby de Paris, place de la Concorde, Paris  

22 septembre – Mace the Great au Village Rugby de Paris, place de la Concorde, Paris 

22 septembre – Qwerin au Club Bingo, La Biennale de la Danse de Lyon  

24 septembre – Cor Hafodwenog au Village Rugby de Lyon  

24 septembre – Qwerin au Village Rugby de Lyon  

25 septembre – Prestation de Jessica Robinson à l’événement organisé à Lyon par le gouvernement gallois 

Du 2 au 7 octobre – Délégation de galeries et de conservateurs Visual Arts Group Wales / Wales Arts International en Bretagne  

5 octobre – Adwaith au Village Rugby de Paris, place de la Concorde, Paris 

6 octobre – Événement des arts visuels organisé par Nantes Métropole ; prestation d’Adwaith à l’événement organisé à Nantes par le gouvernement gallois ; prestation de Côr y Gleision à Nantes  

7 octobre – Clwb Ifor Bach, en collaboration avec le gouvernement gallois, présente Adwaith, Luke RV, Local, Sage Todz à StereoLux, à Nantes ; les apparitions d’artistes au Village Rugby de Nantes seront annoncées. 

14 octobre – Jukebox Collective à Marseille.