Faites défiler vers le bas pour lire cet article en Français

Bydd Blwyddyn Cymru yn Ffrainc 2023 yn cael ei lansio’n swyddogol heddiw ym Mharis. Ochr yn ochr â dirprwyaeth gref yn cynrychioli Cymru, bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cymryd rhan mewn rhaglen o ddigwyddiadau i ddathlu’r lansiad, gan gynnwys trafodaethau gydag UNESCO wrth i ni barhau ar ein taith Gwrando yn ystod Degawd Ieithoedd Brodorol ​​y Cenhedloedd Unedig.

I ddathlu’r lansiad, rydym yn edrych yn ôl ar uchafbwyntiau gŵyl Celtic Connections 2023. Roedd sbotolau ar Gymru yn yr ŵyl fawreddog eleni, wrth i ni rannu’r llwyfan â’n ffrindiau yn Llydaw fel partneriaid rhyngwladol Showcase Scotland.

Wedi’i chyflwyno gan Aleighcia Scott, ac yn serenni’r artistiaid o Gymru a buodd yn arddangos sef Cerys Hafana, Gwilym Bowen Rhys a VRi, ochr yn ochr â’r artist o Lydaw Kaolila, mae’r ffilm fer yn archwilio ein cysylltiadau diwylliannol ac ieithyddol dwfn â Llydaw.

Meddai Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

“Mae Blwyddyn Cymru yn Ffrainc yn gyfle i ni datblygu perthnasau newydd, a hefyd bwydo hen berthnasau, fel perthynas arbennig Cymru a Llydaw. Mae hefyd yn gyfle i ni hau hadau newydd, boed hynny drwy gerddoriaeth hip-hop, drwy theatr neu ddawns, ond hefyd fel rhan o’r rhaglen diwylliant o gwmpas Cwpan y Byd Rygbi a fydd yn cael ei gynnal yn Ffrainc yn ddiweddarach eleni.”

<

I wylio’r fideo gydag isdeitlau Cymraeg, sicrhewch eich bod wedi troi’r opsiwn isdeitlau ymlaen, ac yna o dan ‘Settings’, dewiswch ‘Subtitles’, ac yna ‘Welsh’.

--

Lancement de l’année du Pays de Galles en France pour l’année 2023 !

Aujourd’hui, c’est à Paris que nous lancerons officiellement l’année du Pays de Galles en France pour l’année 2023. C’est aux côtés d'une importante délégation représentant le Pays de Galles que Wales Arts International participera à un programme d’événements, notamment des discussions avec l’UNESCO, organisés pour célébrer le lancement. En parallèle, nous poursuivons notre programme Gwrando (Écoute) durant la Décennie internationale des langues autochtones des Nations Unies.

Pour célébrer le lancement, nous revenons sur certains de nos moments forts du festival Celtic Connections 2023. Cette année, le Pays de Galles a occupé le devant de la scène du prestigieux festival, partageant les feux de la rampe avec nos amis en Bretagne en tant que partenaires internationaux de Showcase Scotland.

Présenté par Aleighcia Scott, avec les artistes gallois Cerys Hafana, Gwilym Bowen Rhys et VRi, aux côtés des artistes bretons Kaolila, le court-métrage explore nos les profonds liens culturels et linguistiques profonds que nous partageons avec la Bretagne.

Eluned Haf (Responsable de Wales Arts International) a dit :

« L’année du Pays de Galles en France est l’occasion pour nous de nouer de tisser de nouveaux liens, tout en renforçant ceux qui existent déjà, comme entre le Pays de Galles et la Bretagne. C'est aussi l'occasion de semer de nouvelles graines, que ce soit dans le hip-hop, le théâtre ou la danse, mais également dans le cadre des activités culturelles pendant la Coupe du Monde de Rugby que la France organisera plus tard cette année. »