Mae'r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol a'n cronfa beilot Cysylltu: Rhwydweithiau Rhyngwladol a Datblygu'r Farchnad wedi cael eu seibio ers mis Mawrth 2020. Ond er gwaethaf cyfyngiadau ar deithio, mae sgyrsiau a chydweithrediadau rhyngwladol wedi parhau i ffynnu'n ddigidol yn ystod yr amser hwn.

 

Gan ymateb i’r cyd-destun byd-eang wrth i hwnnw newid, ac i’r trafodaethau niferus rydyn ni wedi gwrando arnyn nhw a chymryd rhan ynddyn nhw, byddwn yn adolygu’r naill gronfa a’r llall gyda’r nod o agor y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol ar ei newydd wedd ym mis Ebrill 2021.

 

Cyn gwneud hyn, byddwn yn agor y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol ar raddfa lai ar 27 Ionawr 2021 ar gyfer gweithgareddau sydd â chysylltiadau rhyngwladol sy’n defnyddio platfformau ac adnoddau digidol yn bennaf.

 

Darllenwch y canllawiau diwygiedig ar ein tudalen ariannu a sylwch ar yr unig ddyddiad cau ar gyfer y cyfnod hwn, sef dydd Iau 18 Chwefror 2021.

 

Ar ôl partneru â Llywodraeth Cymru ar eu Blwyddyn Cymru yn yr Almaen 2021 yn ddiweddar, rydym yn croesawu ceisiadau i'r gronfa ar gyfer datblygu cysylltiadau pellach â'r Almaen.