Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol

Mae'r gronfa hon ar agor

Mae dyddiadau cau treigl wedi cael eu hail-gyflwyno ar gyfer y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol. Mae hyn yn golygu y gall ceisiadau cael eu cyflwyno unrhyw bryd, gyda phenderfyniad ar eich cais dim hwyrach na 6 wythnos ar ôl ei gyflwyno. Ceir rhagor o wybodaeth yng nghanllawiau'r gronfa sydd ar gael trwy’r ddolen isod.

Diben y gronfa yw: 

  • Cefnogi’r broses o ddatblygu syniadau, cydweithio a rhwydweithiau rhwng gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru a phartneriaid rhyngwladol. 
  • Rhannu profiadau a sgiliau drwy’r celfyddydau mewn cyd-destun byd-eang. 
  • Codi proffil Cymru a’i chysylltiadau drwy’r celfyddydau yn fyd-eang. 

Darllenwch ein hastudiaethau achos Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol yma:
Gwarcheidwaid y Biosffer 2050 - Playframe
Cynhadledd RESEO Paris - Operasonic

 

 

Cronfa Ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc

Mae'r gronfa ar gau

Dyddiad cau: 9am BST, 30 Mehefin 2023

Mae gwahoddiad i weithwyr creadigol ac artistiaid yng Nghymru a Ffrainc wneud cais am grant i Gronfa Ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc. Yn rhan allweddol o raglen Blwyddyn Cymru yn Ffrainc 2023 Llywodraeth Cymru, mae’r gronfa o £100,000 yn agored i geisiadau gan artistiaid a sefydliadau creadigol yn y ddwy wlad i weithio gyda’i gilydd.

Mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg gan y British Council mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru. Nod y gronfa yw sbarduno cysylltiadau newydd ac adnewyddu cysylltiadau sy’n bodoli’n barod rhwng Cymru a Ffrainc drwy gefnogi cydweithrediadau sy’n meithrin cysylltiadau hirdymor ymysg artistiaid, ymarferwyr creadigol a sefydliadau celfyddydol a diwylliannol.

Mae’r gronfa’n agored i geisiadau gan unigolion a sefydliadau sy’n gweithio ym meysydd diwylliant, creadigrwydd a llesiant ac mae'n rhaid i geisiadau fod gan bartneriaeth rhwng o leiaf un sefydliad neu unigolyn yng Nghymru ac un yn Ffrainc. Rheolir y broses ymgeisio gan British Council.

 

Cronfa Arddangos Ryngwladol Sefydliad PRS

Os ydych yn artist, band, cyfansoddwr neu gynhyrchydd, ac wedi cael eich gwahodd i chwarae gŵyl neu gynhadledd arddangos ryngwladol, efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid drwy Gronfa Arddangos Ryngwladol Sefydliad PRS mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Os ydych yn gymwys ar gyfer y llwybr ariannu hwn, ni chewch wneud cais i'r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol. Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr pa lwybr ariannu sydd orau i chi.