Wrth i’r flwyddyn ddirwyn tua’i therfyn, rydyn ni am achub ar y cyfle i rannu tri maes gwaith â chi rydyn ni’n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn golygu edrych at y dyfodol, edrych ar y byd ar ôl y pandemig, ac edrych ar ffyrdd o weithio’n rhyngwladol.   

Y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol / Cronfa Rhwydweithiau Cysylltu 

Mae’r cronfeydd hyn wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2020, gyda’r rhan fwyaf o'r arian yn cael ei ddefnyddio yn lle hynny fel cyllid brys ac ar weithgareddau gwahanol, ond rydyn ni’n edrych ymlaen at gyhoeddi ailagor y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol ym mis Ionawr 2021. Cadwch olwg ar ein gwefan ac ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol am ragor o fanylion. Rydyn ni hefyd yn paratoi i agor cronfa ryngwladol newydd ym mis Ebrill 2021, a bydd hon yn ymateb i’r cyd-destun byd-eang wrth iddo newid, ac i anghenion artistiaid.   

 

Blwyddyn Cymru yn yr Almaen 2021 

Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar brosiectau rhyngwladol o bwys gyda Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, fel y gweithgareddau diwylliannol yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Japan yn hydref 2019, a Rhaglen Ddiwylliannol Wythnos Cymru Dulyn 2020 yn ôl ym mis Mawrth.  

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at Flwyddyn Cymru yn yr Almaen 2021 a fydd yn gyfle arall i gefnogi cydweithio artistig a chyfnewid rhwng y ddwy wlad. Mae’n foment arbennig o bwysig wrth gefnogi’r perthnasau sy’n bodoli’n barod a datblygu rhai newydd gyda’n partneriaid Ewropeaidd.   

Bydd cyllid ar gael i gefnogi artistiaid a chwmnïau yn eu prosiectau gyda phartneriaid o’r Almaen drwy ein Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol, sy’n rhoi cyfleoedd i gydweithio’n ddigidol. Cyn belled ag y bydd cyfyngiadau Covid yn cael eu llacio, bydd cyllid hefyd i fynd i ddigwyddiadau o bwys sy’n cael eu cynnal gydol y flwyddyn. 

 

Rhwydweithiau Rhyngwladol 

Rydyn ni wedi parhau i ymwneud â rhwydweithiau rhyngwladol dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi sylweddoli bod ein cymuned ryngwladol yn bwysicach nag erioed er mwyn parhau i’n hysbrydoli, ein cyfoethogi a’n herio drwy’r cyfnod hwn.  

Ar 9 Rhagfyr 2020 cynhaliwyd gweithdy ar gyfer ymarferwyr a sefydliadau yn y byd celf yng Nghymru i ddysgu mwy am Gysylltu â Rhwydweithiau Ewropeaidd. Roedd y sesiwn yn cael ei chynnal gan rwydwaith On The Move (Brwsel) ac yn cael ei darparu mewn partneriaeth â Desg Ewrop Greadigol y DU – Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. 

Rydyn ni hefyd yn gwahodd y sector i gysylltu â ni am eu paratoadau ar gyfer diwedd cyfnod pontio’r UE. Dyma rai o’r pethau rydyn ni’n eu gwneud i baratoi.  

Rydyn ni’n gweithio ar sefydlu Gwybodfan Celf y DU – un man canolog sy’n rhoi gwybodaeth ymarferol i artistiaid sy’n teithio i mewn i’r DU o’r flwyddyn nesaf ymlaen.  Mae’r cynllun peilot hwn yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, a’n partneriaid, Creative Scotland ac Arts Council England. Rydyn ni hefyd wedi bod yn cydweithio â Tamizdat (Efrog Newydd); Ysgol y Gyfraith Caerdydd (Prifysgol Caerdydd); Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit a rhanddeiliaid eraill o bob rhan o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol gyda rhwydwaithOn the Move.  

Fe wnaeth Gwybodfan Celf y DU bartneru â Desg Ewrop Greadigol – Yr Alban i gynnal gweminar ar lwybrau symudedd sy’n dod i mewn i artistiaid ar 15 Rhagfyr 2020.

Cadwch olwg am ragor o gyhoeddiadau a gwybodaeth am ddigwyddiadau’r dyfodol wrth i’r Wybodfan fynd yn fyw ym mis Ionawr 2021: http://artsinfopointuk.com/cy.html